Saturday 11 May 2013

Yr FA a mwy



Cwpan yr FA fydd yn cymryd sylw pawb heddiw mae’n debyg. Manchester City yn erbyn Wigan. Mae’r ornest yma tros y blynyddoedd wedi ei selio ar ein synnu.  Ond heddiw, dwi ddim  yn meddwl. Fe fase yn syndod mawr pe bai Wigan  yn cael buddugoliaeth gan fod Manchester City yn ddim owtffit llawer gwell.

Dwi yn gweld y gêm drosodd i bob pwrpas cyn hanner amser.  Yn y saith tro diwethaf i’r ddau gyfarfod mae City wedi ennill heb ildio un gôl ac maen nhw 40 pwn o’i blaen yn y “premier.” Ar ben hun maen nhw wedi ennill ei 13 gem ddiwethaf. Felly fawr o obaith I Wigan ydi’r casgliad. Mi welwch y cyfan ar ITV.

Fory fydd Syr Alex Ferguson yn cymryd ei gem olaf yn Old Trafford ac fe fydd na seremoni o drosglwyddo cwpan y premier i’r tîm ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe.  A budd Abertawe yn medru cymryd y sglein o’r achlysur go annhebyg, ond cawn weld.

Yn ôl gartref mae ‘play-offs’ Cynghrair Cymru rhwng Bangor yn erbyn Bala a Phort Talbot yn erbyn Caerfyrddin. C’mon Bangor ar ôl siomedig Cwpan Cymru buddugoliaeth a lle yn gwpan Ewropa yw’r nod.

A nawr y ceffylau. Dwi am ganolbwyntio ar Ascot heddiw oherwydd mwy na thebyg bydd pawb yn gwylio'r bêl droed ac nid y rasio. Felly dyma’r dewis.
Ascot
1.30         Ifwecan
2.05         Scatter Dice
2.40         Thomas Chippendale
3.15         Sharp and Smart
3.50         Tartiflette
4.25         Apollo D’Negro

Mae’r rhwyd waith yn gadael rhyw un wybod yn syth pam nad mha ddyn  yn plesio. Dwi ar ddeall bod rhai o’n dilynwyr mwyaf selog yn mynd i edrych ar y rasio ar Sianel 4, felly dyma’r dewis yn llawn
1.50 Haydock         Battlegroup
2.05 Ascot              Scatter Dice
2.20 Lingfield          Secret Gesture
2.40 Ascot              Thomas Chippendale
2.55 Lingfield          Greatwood
3.15 Ascot              Sharp and Smart
3.30 Haydock          Forgotten Voice
3.50 Ascot              Tartiflette        


Pob lwc.

No comments:

Post a Comment