Saturday 8 June 2013

Arian Mawr


Awstralia yn erbyn Lloegr yn Edgebaston bydd yn diddori'r rhai sydd yn hoff o griced. Mae Lloegr yn dechrau eu hymgyrch am droffi'r pencampwyr. Mi faswn yn tybio bydd hon yn ornest fydd yn sgorio’n uchel. Hefo’r haul yn cael ei rhagweld bydd y rhediadau yn llifo. Y cwbl yn dechrau bore mha am hanner awr wedi deg. Felly torri’r glaswellt yn fuan er mwyn bod yn y gadair erbyn hynny.

Wedyn tro bach tros y sianel i weld ornest y marched yn ddiweddglo'r Ffrengig Agored. Mae gan Maria Sharapova goblyn o dasg o’i blaen os ydi am drechu Serena Williams.  Mae Williams ar ben ei gem eleni.  Dydw i ddim yn gweld Sharapova yn dal ei gafael ar y teitl ddaru hi ennill flwyddyn yn ôl.

Disgwyl am Ascot wythnos nesaf mae’r byd rasio. Fel ddaru ni ddim ennill y Derby wythnos diwethaf er bod y tipiau eraill wedi gwneud elw reit dda i bawb ddaru eu dilyn. Mae 'na bethau mawr i’w ennill heddiw. 
Y pwnc trafod  ydi’r arian mawr sydd ar gael fel gwobr yn y Scoop6 - £1.25 miliwn. Felly mae Sianel Pedwar Lloegr  yn ganol bwyntio ar y rasys sydd yn gwneud i fyny’r chwe ras. Ond dwi hefyd yn rhoi'r tipiau ychwanegol a gwelwch ar rasys eraill y teledu. Ond mae (S) yn ymddangos yn rasys y Scoop6 rhag ofn bod gennych flas ar fod yn filiwnydd.

Mae’n rhai dweud byddwch yn ofalus am ddewis yn y 1.45 yn Newmarket toes na fawr o ffeithiau i fedru gwneud. Tipyn o lwc a llinell  i selio’r dewis.

Pob lwc.

Haydock
2.05         Beyond Conceit/ Sun Central (S)
2.40         Prussian/ Quiz Mistress (S)
3.15         Eton Forever/Pastoral Player
3.50         Gracia Directa/ Ladies are Forever

Newmarket
1.45         Jallota/ Gm Hopkins
2.20         Ehtedaam/ Niceofyoutotellme (S)
2.55         Enrol/Nocturn (S)
3.30         No Heretic/ Handsome Man (S)

Gaer
3.20         Area Fifty One/Greeley’s Love (S)

No comments:

Post a Comment