Saturday 6 July 2013

Dewis y diwrnod - Al Kazeem


Tennis fydd yn cymryd sylw pawb y pen wythnos yma. Mae’r bwci yn gwneud Sabine Lisicki yn ffefryn 4-9 i ennill ornest y marched yn erbyn Marion Bartoli 2-1 prynhawn ‘mha.

A fory yr Albanwr yn erbyn Novak Djokovic. Mae’r bwci yn gwneud Murray yn ffefryn 13-8. Y cyntaf yn erbyn yr ail chwaraewr dethol.

Fel mae 'na ryw fusnes bach o’r trydydd prawf  y Llewod yn erbyn Awstralia. Mi fydd yn agos ac mae Awstralia ar ôl y fuddugoliaeth ddiwethaf yn ôl yn y set gyrru ond gyda chymaint o Gymru ar y cae mae’r ffydd yn uchel.

Ydi Sebastian Vette erioed wedi ennill y grand prix yn ei wlad eu hyn. Ond o bosib mi fydd yn gael gwared o’r anlwc fory yn Grand Prix yr Almaen. Y fo sydd yn arwain y farchnad ar 15-8.

A ras y diwrnod fydd y Coral-Eclipse yn Sandown. Cawn weld os fydd AL Kazeem yn medru dal ymlaen efo’i rhedeg anhygoel gyda'i trydedd fuddugoliaeth mewn rasys grŵp un. Declaration of War  a Mars fydd y perig ond mae Roger Charlton wedi delio yn eithriadol dda gyda gyrfa’r ceffyl yma ac felly Al Kazeem yw fy newis.

Gweddill fy newis i gyd  yw gweld ar Sianel Pedwar Lloegr.

2.05 Sandown:         DUTCH MASTERPIECE / Kingsgate Native
2.20 Haydock:          MASAMAH / Louis The Pious
2.40 Sandown:         ROSERROW / Gaul Wood
2.55Haydock:           MOMENT IN TIME / Midnight Soprano
3.15 Sandown:         AUCTION / Woodland Aria
3.30 Haydock:          OPINION (nb) / Star Lahib
3.50 Sandown:         AL KAZEEM (nap) / Declaration Of War

Pob lwc.


No comments:

Post a Comment