Saturday 24 August 2013

Gwyl Ebor yr Efrog


Yn ôl o’m gwyliau ar Sadwrn cyntaf Uwch Gynghrair Cymru. Fel hynny dyla’ hi fod. Yr haf drosodd a pel-droed i’n diddori yn fisoedd y gaeaf.

Mae Bangor yn y Drenewydd heddiw, dipyn bach o ymarfer cyn yr em holl bwysig dydd Llun y banc yr em ddarbi Bangor yn erbyn Y Rhyl.

Er mae carfan fach sydd gan Fangor disgwyl pethau mawr o ohonynt eleni ar ôl siomedigaeth tymor diwethaf. Mae’n rhaid i rywun rhoi dipyn o her i chwaraewyr amser llawn TNS a’r Dinasyddion ydi’r bois i wneud hynny.

Ar ôl ei buddugoliaeth yn erbyn Petrolui Ploiesti  5-1 yn gwpan Ewropa dydd Iau mae Abertawe ar drip I White Hart Lane yn ogledd Llundain I chwarae Spurs. Dim gem hawdd. Enillodd Spurs o 5-0 yn erbyn Dinamo Piolesti yn yr un ornest. Yn dangos bod yna mwy i Spurs na Gareth Bale.

Bydd gan Gaerdydd dipyn o sialens yn eu gem gyntaf gartref dydd Sul yn erbyn Manchester City. Yn ôl Malky Mackay mae eisio gwneud Caerdydd yn gadarnle i dimau fydd yn ymweld. Cawn weld.

Diwrnod olaf  gŵyl yr Ebor yn Efrog fydd yn cymryd ein sylw heddiw yn y rasys. Mae’n debyg na Cable Bay bydd yn cymryd sylw puntars Sir Fôn ond My  Catch fydd yn cymryd fy sylw iddo fe roes tro da arni yn erbyn ceffylau o safon yn Deauville mis diwethaf. Mae’n geffyl ar ei fyny.

Rwyf wedi tipio'r cyfan yn Efrog ar dair ras a welwch ar S4 Lloegr o Goodwood. Pob lwc. Mae’n braf fod yn ôl ar y rhwyd byd eang gobeithio y cawn hwyl ar ôl dod yn ôl.

Mae nhw wedi tyny Great Hall ac Agent Knight yn y 2.40 felly fy newis nawr ydi Havanna Cooler
Efrog

2.05 Rex Imperator/Sirius Prospect
2.40 Great Hall/Agent Knight
3.15 My Catch/Cable Bay
3.50 Ted Veale/Sun Central
4.25 Mecca’s Angel/Excel’s Beauty
5.00 Sennockian Star/Charles Camoin
5.35 Jillnextdoor/Hoofalong

Goodwood

2.20 Amazing Maria/Midnite Angel
2.55 Magic City/Glen Moss
3.30 Afsare/Thistle Bird

1 comment:

  1. For any Welsh-challenged readers, Efrog isn't France on line, it's actually York !

    ReplyDelete