Saturday 19 October 2013

Ceffylau a mwy



Mae Abertawe yn chwarae gartref yn erbyn Sunderland tîm sydd yn dal y tabl i fyny.  Sefyllfa fase rhywun yn edrych ymlaen am fuddugoliaeth rhwydd… ond, ie mae 'na ond. Mae gan Sunderland rheolwr newydd, sef Gus Poyet. Yn sicr fydd  chwaraewyr Sunderland ar eu gorau i drio dylanwadu ar eu bos newydd.

Mae gan Gaerdydd dipyn o dasg yn ymweld â Chelsea, yn enwedig ar ôl y lol efo’r perchennog yn cael gwared o Iain Moody a rhoi bachgen 23 fel pennaeth recriwtio, jest am ei fod wedi bod yn ffrind ysgol i fab y perchennog. Wel, os ydych eisio arian y cyfoethog mae rhaid rhoi i fyny a’i echreiddiad.

Blwyddyn yn ôl ddaru Frankel ddod a’i yrfa i ben ar ôl ennill 14 ras allan o 14. Anhygoel. Mai ofn does dim ceffyl o’r fath yn rhedeg heddiw.

Yn y ras gyntaf fe enillodd Estimate, ceffyl y Frenhines, y Cwpan Aur yn Royal Ascot ac mae’n swclen flaengar ac mi ddylai gwneud yn dda heddiw.

Yn yr ail ras Maarek sydd yn cael y sylw ond mae’n geffyl braidd yn ddiog yn y dechrau o’n yn codi cyn y diwedd. Mi fydd hun yn ei adael i lawr rhyw ddydd ond dim heddiw gobeithio.

Talent fydd llawer ar ei hol yn y trydydd fe enillodd yr Oaks a'n  ail yn y St Leger ond i mi mae’r pellter yn siwtio Dalkala.

Ar ei ddiwrnod mae Soft Falling Rain yn goblyn o geffyl anodd ei drin. Mae’n well ceffyl na’r gweddill ond nid yn gyson ar ei ddiwrnod heb ei ail. Mae’n gambl ond dyna hwyl rasio.

Yn y ras mawr mae Cirrus Des Aigles yn gosod y safon ac ar y ceffyl bydd fy arian.

Loteri lwyr ydi’r ras ddiwethaf gyda 29 yn rhedeg ond cewch od da, cofiwch bob ffordd am dani yn y ras yma.

Bob lwc.
Ascot
1.45         Estimate/Eye of the Storm
2.20         Maarek/Viztoria
2.55         Dalkala/Waila
3.30         Soft Falling Rain/Top Notch Tonto
4.05         Cirrus Des Aigles/Mukhadram
4.45         Balty Boys/Intrigo         

No comments:

Post a Comment