Thursday 24 November 2016

Datganiad yr Hydref

Datganiad yr Hydref oedd y cyfle cyntaf i gymryd stoc economaidd ar ôl y bleidlais y genedl i adael Ewrop.

Daeth Y Canghellor I’r Tŷ Cyffredin ac mae’n rhaid dweud bod y cyfan fel sgwib llaith.

O flaen llaw roedd y 'spin' i gyd oedd  sôn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol. Ond yn y diwedd codiad dim ond codiad o 0.3%  I 0.4% o’r GDP ym mhob blwyddyn ariannol rhwng  2017 i2020. Mae’r ffigyrau jest tipyn yn uwch na beth oedd y llywodraeth Llafur yn gwario cyn yr argyfwng ariannol.

Gan fod lefelau llog mor isel mi ddylai ni fod yn gwario llawer llawer mwy.  Mae Philip Hammond wedi cymryd mantra Ed Balls o ddifri a rhoi hwb i isadeileddau, tai a sgiliau ond nid i’r graddau i sefydlu economi cadarn a llai o lawer na’r gwledydd  diwydiannol yn ein cylch cyfoedion.

Beth roedd yr economi eisio oedd ei ailgychwyn ond be gafodd o roedd dipyn o ‘makeover’ ysgafn.

Fe roedd ‘cap’ ar wariant ar fudd-daliadau a bydd y tlawd – rhai yn gweithio a’r di-waith – yn colli tua 2% y flwyddyn. Bydd ei safonau byw yn dirywio.
Ac yn ôl Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) mae’r rhagolwg a’r gyflog yn “ofnadwy.” Yn ôl yr IFS bydd gweithwyr yn ennill llai  o gyflogau yn 2021 ac roeddent yn ennill yn 2008.

Ac yn ôl y datganiad Philip Hammond  bydd cost gadael yr Undeb Ewropeaidd I’r economi tua £58.6 biliwn. Pam? Llai o ymfudiad, llai o gynhyrchaeth a’r economi ar ei lawr gan fod yna ansicrwydd.

Pris go fawr i dalu am adael Ewrop.


No comments:

Post a Comment