Thursday 10 November 2016

Pam Trump?

Heb ddeall bod 'na lawer o bobol yn y gorllewin mewn poen fedrwn ni ddim deall y ffenomena o Donald Trump, Brexit  a dyrchafiad y De eithafol yn wleidyddiaeth llawer i wlad.

A’r rheswm am hun neo-rhyddfrydiaeth a’r polisïau sy’n dilyn yn uniongyrchol o’r athroniaeth. Mae 'na niferoedd o bobol  sydd wedi gweld ei safonau byw yn dirywio yn ddiffwysol o dan bolisïau o ddadreoleiddio, preifateiddio, llymder a masnacha corfforedig.

Colli gwaith, pensiynau ac y rhwyd ddiogelwch a oedd ar gael dan y wladwriaeth les oedd hanes niferoedd o bobol yn wledydd y gorllewin yn cynnwys wrth gwrs Prydain a’r Unol Daleithiau. Mae’r dyfodol yn edrych yn ddifrifol Iddynt hwy a’i phlant.

Ar y llaw arall maent yn gweld llawer yn cael bywyd cyffyrddus. Y dosbarth uwch, bancwyr, gwleidyddion  ar fyd sy’n llawn o ‘selebs. ’ Mae’n na pharti yn mynd ymlaen a ydynt ddim yn cael gwadd i’r bwrdd. Cyfoeth yn codi a grym yn codi i rai a dyled a thlodi i nwy.

Mae arweinyddion fel  Donald Trump a Nigel Farrage wedi sylweddoli’r poen ac yn ei ecsbloetio. Felly hefyd y pleidiau asgell Dde ar y cyfandir. Mae’n rhwydd troi pobol yn erbyn  ei gilydd. Rhoi’r bai  ar fewnfudwyr, Mwslimiaid, Merched, y croenddu. Troi I mewn ar ei hunain ac edrych yn ôl gyda hiraeth am yr hen ddyddiau.

Y diffyg ydi ei siomi y cawn gan y sefyllfa newydd, gan fydd ei harweinydd ddim yn fodlon delio ar broblem sef gwneud yr economi gweithio i’r llawer. Nid hynna yw natur cyfalafiaeth.

Nid fydd hi yn hir tan fydd pobol yn cael ei siomi gan Trump a hefyd  Brexit yn y wlad yma, ond yn anffodus fydd na llawer mwy o boen iddynt o dan y drefn maent wedi pleidleisio i hebrwng i mewn.

Yr ateb ydi troi ein cefn ar neo-rhyddfrydiaeth a threfnu ei’n economi a’n cymdeithas a’r llinella sy’n rhoi gobaith, cymdeithas gynhwysfawr ble mae pawb yn cael chwarae teg. 

Gobaith leddfa y galon luddedig.

No comments:

Post a Comment