Friday 4 November 2016

Y wasg a barnwyr

Un o elfennau pwysig  cyfansoddiad yr DU ydi rheolaeth cyfraith ac annibyniaeth barnwyr. Ond yn sicr nid felly mae rhai o’n papurau yn ei gweld hi yn dilyn dyfarniad yr uchel Lys  ar Erthygl 50. Mae eu hymateb wedi bod yn ffyrnig, yn llawn casineb at y barnwyr, rhai yn mynd mor bell a  gofyn iddynt gael y sac.

A heb golli cyfle roedd David Davies aelod Mynwy yn trydar
‪”@DavidTCDavies
Unelected judges calling the shots. This is precisely why we voted out. Power to the people!” a Douglas Carswell AS yn awgrymu bod rhaid cael barnwyr gwahanol trwy ddiwygio'r system o ddewis barnwyr. Er mwyn cael rhai fase yn siwtio eu hagwedd gwleidyddol o, mae’n debyg.

Ond beth yn union oedd trosedd y barnwyr? Edrych ar y gyfraith  ac nid ar wleidyddiaeth. Roeddent yn gadarn yn eu barn nad oedd yr hun yn ddim i wneud a’r teilyngdod o fod i mewn neu allan o’r UE ond ar gwestiwn a oedd hi’n gyfreithiol i’r llywodraeth penderfynu ar erthygl 50 neu’r senedd.

Ac yn unfrydol fe benderfynwyd nad oedd gan y llywodraeth y grym. Pam? Am fod hi’n egwyddor sylfaenol o’r cyfansoddiad fod y rhagorfraint y Goron ddim yw defnyddio i gymryd hawliau roedd wedi eu trosglwyddo i ddinasyddion trwy’r senedd. A dyna fase wedi digwydd pe bau’r llywodraeth yn cael eu ffordd.

Yn y bôn a’ yw ein papurau newydd ac ein gwleidyddion eisio cyrtiau annibynnol neu ddim. Yn sicr ar ôl yr ymateb yr ateb i’w “na.” Ac yn wir  mae hun yn mynd a ni i lawr ffordd lithrig tros ben fel cymdeithas.



No comments:

Post a Comment