Monday 20 March 2017

Amser gwell i ddyfod? neu Omnishambles

“Dwi yn gwneud fy ngwaith wedi ei selio ar ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol ac i ffwrdd o hun mi roddaf atebion sy’n ffeithiol ac yn gywir. Nid llinellau  sydd yn cael ei thaflu allan.”

Dyna sut dechreuodd yr ysgrifennydd Brexit David Davis wrth bwyllgor Brexit Tŷ’r Gyffredin wythnos diwethaf. Gwir dweud ar ôl yr agoriad positif yna i lawr aeth ei dystiolaeth.

Bron ar unwaith roedd rhaid I Davis cyfaddef nad oedd ei lywodraeth wedi gwneud asesiad economaidd o effaith gadael yr UE heb gael bargen ar fasnachu – er I Terresa May dweud “Fase dim bargen yn well na bargen wael.”

Ac er mewn twll, dal i gloddio y gwnaeth. Pan ofynnwyd iddo pam nag oedd yna asesiad, ei ateb “Mae’r pethe yma yn cael eu gwneud darn fel darn. Ar ôl creu'r bloc Lego, mi adeiladwn y tŷ.”

Er i ddeddf Brexit cael ei basio dywedodd y gwleidydd bydd yn cymryd dipyn hirach i weithio allan yr effaith economaidd,  “Fedra I ddim mesur ichwi'r manylion eto, mae’n bosib y medraf wneud hun pen rhyw flwyddyn.”

Pan ofynnwyd iddo eto a oedd o yn bersonol wedi gwneud asesiad o effaith gadael yr UE heb fargen, dywedodd “Mae gennyf farn eithaf clir sut bydd yn gweithio allan. Dwi jest ddim wedi ei dadansoddi eto.”

Fe aeth ymlaen i ddweud “ does ddim rhaid cael darn o bapur gyda rhif arno i gael asesiad economaidd.”

Fe drïodd cysuro'r pwyllgor drwy ddweud “ Bu imi dreulio rhan fwyaf o’m mywyd yn gweithio fel dyn busnes cyn dod i wleidyddiaeth. Yn amyl da chi’n gwybod beth sydd yn fargen dda er ichwi ddim cael y ffigyrau.”

Mae diffyg “ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol” yn dweud y cwbl mi dybiwn. Mae’n debyg bod David Davis yn gweithio ar well yr hun a fegir na’r hyn a brynir.



No comments:

Post a Comment