Monday 10 April 2017

Hollt y Ceidwadwyr


Pan benderfynodd Mark Reckless i adael UKIP fe gyhoeddodd y Ceidwadwyr ei fod am ymuno a’i grŵp   yn y Cynulliad.

Fe ddisgrifiwyd yr achos fel rhiw fath o fuddugoliaeth i’r Ceidwadwyr yn y bae – ar unwaith nwy oedd yr wrthblaid fwyaf yn Bae Caerdydd ac roedd Andrew RT Davies nawr yn medru galw ei hun yn ‘arweinydd yr wrthblaid’ - er nad oes y fath beth yn bodoli yn swyddogol.

Swyddogion y grŵp Ceidwadol oedd yn actio fel ‘minders’ i Mark Reckless wrth ei symud o gwmpas y Bae i ddarlledu a rhoi cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau

Ond mae’r brolio nawr wedi troi yn rhywbeth chwerw. Yn gyntaf fe gwynodd aelodau seneddol y blaid Geidwadol nag oedd gan y blaid yr hawl i dderbyn Mark Reckless I fod yn rhan o’r grŵp.

Ac mae’r colofnydd yma ar ddeall fod ffynonellau uchel yn y blaid Geidwadol wedi gofyn I Andrew RT Davies ymddiswyddo dros y mater a bod yr ACau Ceidwadol wedi "peryglu" eu safleoedd wrth ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw.

Wedyn dros y Saboth fe aeth Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay, ar yr awyr i fynegi ei farn. Ac nid farn o gefnogaeth i’w arweinydd yn y bae oedd. Ond cwestiynu nath y bonheddwr o Fynwy ble yn union oedd e'n  sefyll. Nid oedd yn gwybod bellach a oedd yn aelod o grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad yn dilyn y digwyddiadau.

Ac nid e oedd yr unig un o’r grŵp oedd yn anhapus, mi roedd yna dau arall wedi codi eu gofidion am y penderfyniad yn ôl pob tebyg.

Er bod arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn mynegu nad oedd y cyfansoddiad wedi ei atal er mwyn croesawu Mr Reckless i'r grŵp, a bod y grŵp wedi cytuno'n "unfrydol" i'w groesawu.

Holltiad yn rhenciau’r blaid ydi’r peth diwethaf mae’r Ceidwadwyr eisio wrth ymladd i ennill seddi ar Cynghorau Cymru. Ond mae’n debyg bydd y ffrae rhwng aelodau’r cynulliad ac aelodau seneddol ac arweinyddion y blaid Geidwadol yn Llundain yn rhedeg am dipyn bellach yn sicr.

Roedd yna anhapusrwydd yn erbyn Andrew RT Davies ar ôl canlyniadau sâl etholiad y Cynulliad ac roedd rhai eisio fo ymddiswyddo ar y pryd. Nawr fydd y pwyso yn cynyddu arno i fynd.


No comments:

Post a Comment